Job 15:6-15 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

6. Dy enau dy hun sy'n dy gondemnio, nid myfi,a'th wefusau di sy'n tystio yn dy erbyn.

7. “Ai ti a anwyd y cyntaf o bawb?A ddygwyd di i'r byd cyn y bryniau?

8. A wyt ti'n gwrando ar gyfrinach Duw,ac yn cyfyngu doethineb i ti dy hun?

9. Beth a wyddost ti na wyddom ni?Pa grebwyll sydd gennyt nad yw gennym ninnau?

10. Y mae yn ein mysg rai penwyn a rhai oedrannus,rhai sy'n hŷn na'th dad.

11. Ai dibris yn d'olwg yw diddanwch Duw,a'r gair a ddaw'n ddistaw atat?

12. Beth a ddaeth dros dy feddwl?Pam y mae dy lygaid yn fflachio

13. fel yr wyt yn gosod dy ysbryd yn erbyn Duw,ac yn arllwys y geiriau hyn?

14. Sut y gall neb fod yn ddieuog,ac un a anwyd o wraig fod yn gyfiawn?

15. Os nad ymddiried Duw yn ei rai sanctaidd,os nad yw'r nefoedd yn lân yn ei olwg,

Job 15