Job 15:4-12 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

4. Ond yr wyt ti'n diddymu duwioldeb,ac yn rhwystro defosiwn gerbron Duw.

5. Oherwydd dy gamwedd sy'n hyfforddi dy enau,ac ymadrodd y cyfrwys a ddewisi.

6. Dy enau dy hun sy'n dy gondemnio, nid myfi,a'th wefusau di sy'n tystio yn dy erbyn.

7. “Ai ti a anwyd y cyntaf o bawb?A ddygwyd di i'r byd cyn y bryniau?

8. A wyt ti'n gwrando ar gyfrinach Duw,ac yn cyfyngu doethineb i ti dy hun?

9. Beth a wyddost ti na wyddom ni?Pa grebwyll sydd gennyt nad yw gennym ninnau?

10. Y mae yn ein mysg rai penwyn a rhai oedrannus,rhai sy'n hŷn na'th dad.

11. Ai dibris yn d'olwg yw diddanwch Duw,a'r gair a ddaw'n ddistaw atat?

12. Beth a ddaeth dros dy feddwl?Pam y mae dy lygaid yn fflachio

Job 15