Job 15:17-24 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

17. “Dangosaf iti; gwrando dithau arnaf.Mynegaf i ti yr hyn a welais

18. (yr hyn y mae'r doethion wedi ei ddweud,ac nad yw wedi ei guddio oddi wrth eu hynafiaid;

19. iddynt hwy yn unig y rhoddwyd y ddaear,ac ni thramwyodd dieithryn yn eu plith):

20. bydd yr annuwiol mewn helbul holl ddyddiau ei oes,trwy gydol y blynyddoedd a bennwyd i'r creulon.

21. Sŵn dychryniadau sydd yn ei glustiau,a daw'r dinistriwr arno yn awr ei lwyddiant.

22. Nid oes iddo obaith dychwelyd o'r tywyllwch;y mae wedi ei dynghedu i'r cleddyf.

23. Crwydryn yw, ac ysglyfaeth i'r fwltur;gŵyr mai diwrnod tywyll sydd wedi ei bennu iddo.

24. Brawychir ef gan ofid a chyfyngder;llethir ef fel brenin parod i ymosod.

Job 15