Job 15:15-30 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

15. Os nad ymddiried Duw yn ei rai sanctaidd,os nad yw'r nefoedd yn lân yn ei olwg,

16. beth ynteu am feidrolyn, sy'n ffiaidd a llwgr,ac yn yfed anghyfiawnder fel dŵr?

17. “Dangosaf iti; gwrando dithau arnaf.Mynegaf i ti yr hyn a welais

18. (yr hyn y mae'r doethion wedi ei ddweud,ac nad yw wedi ei guddio oddi wrth eu hynafiaid;

19. iddynt hwy yn unig y rhoddwyd y ddaear,ac ni thramwyodd dieithryn yn eu plith):

20. bydd yr annuwiol mewn helbul holl ddyddiau ei oes,trwy gydol y blynyddoedd a bennwyd i'r creulon.

21. Sŵn dychryniadau sydd yn ei glustiau,a daw'r dinistriwr arno yn awr ei lwyddiant.

22. Nid oes iddo obaith dychwelyd o'r tywyllwch;y mae wedi ei dynghedu i'r cleddyf.

23. Crwydryn yw, ac ysglyfaeth i'r fwltur;gŵyr mai diwrnod tywyll sydd wedi ei bennu iddo.

24. Brawychir ef gan ofid a chyfyngder;llethir ef fel brenin parod i ymosod.

25. Oherwydd iddo estyn ei law yn erbyn Duw,ac ymffrostio yn erbyn yr Hollalluog,

26. a rhuthro arno'n haerllug,a both ei darian yn drwchus;

27. oherwydd i'w wyneb chwyddo gan fraster,ac i'w lwynau dewychu â bloneg,

28. fe drig mewn dinasoedd diffaith,mewn tai heb neb yn byw ynddynt,lleoedd sydd ar fin adfeilio.

29. Ni ddaw'n gyfoethog, ac ni phery ei gyfoeth,ac ni chynydda'i olud yn y tir.

30. Ni ddianc rhag y tywyllwch.Deifir ei frig gan y fflam,a syrth ei flagur yn y gwynt.

Job 15