Job 15:15-20 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

15. Os nad ymddiried Duw yn ei rai sanctaidd,os nad yw'r nefoedd yn lân yn ei olwg,

16. beth ynteu am feidrolyn, sy'n ffiaidd a llwgr,ac yn yfed anghyfiawnder fel dŵr?

17. “Dangosaf iti; gwrando dithau arnaf.Mynegaf i ti yr hyn a welais

18. (yr hyn y mae'r doethion wedi ei ddweud,ac nad yw wedi ei guddio oddi wrth eu hynafiaid;

19. iddynt hwy yn unig y rhoddwyd y ddaear,ac ni thramwyodd dieithryn yn eu plith):

20. bydd yr annuwiol mewn helbul holl ddyddiau ei oes,trwy gydol y blynyddoedd a bennwyd i'r creulon.

Job 15