Job 14:9-18 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

9. pan synhwyra ddŵr fe adfywia,ac fe flagura fel planhigyn ifanc.

10. Ond pan fydd rhywun farw, â'n ddinerth,a phan rydd ei anadl olaf, nid yw'n bod mwyach.

11. Derfydd y dŵr o'r llyn;disbyddir a sychir yr afon;

12. felly'r meidrol, fe orwedd ac ni chyfyd,ni ddeffry tra pery'r nefoedd,ac nis cynhyrfir o'i gwsg.

13. O na bait yn fy nghuddio yn Sheol,ac yn fy nghadw o'r golwg nes i'th lid gilio,a phennu amser arbennig imi, a'm dwyn i gof!

14. (Pan fydd meidrolyn farw, a gaiff ef fyw drachefn?)Yna fe obeithiwn holl ddyddiau fy llafur,hyd nes i'm rhyddhad ddod.

15. Gelwit arnaf, ac atebwn innau;hiraethit am waith dy ddwylo.

16. Yna cedwit gyfrif o'm camre,heb wylio fy mhechod;

17. selid fy nhrosedd mewn cod,a chuddid fy nghamwedd.

18. “Ond, fel y diflanna'r mynydd sy'n llithro,ac fel y symud y graig o'i lle,

Job 14