Job 14:11-18 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

11. Derfydd y dŵr o'r llyn;disbyddir a sychir yr afon;

12. felly'r meidrol, fe orwedd ac ni chyfyd,ni ddeffry tra pery'r nefoedd,ac nis cynhyrfir o'i gwsg.

13. O na bait yn fy nghuddio yn Sheol,ac yn fy nghadw o'r golwg nes i'th lid gilio,a phennu amser arbennig imi, a'm dwyn i gof!

14. (Pan fydd meidrolyn farw, a gaiff ef fyw drachefn?)Yna fe obeithiwn holl ddyddiau fy llafur,hyd nes i'm rhyddhad ddod.

15. Gelwit arnaf, ac atebwn innau;hiraethit am waith dy ddwylo.

16. Yna cedwit gyfrif o'm camre,heb wylio fy mhechod;

17. selid fy nhrosedd mewn cod,a chuddid fy nghamwedd.

18. “Ond, fel y diflanna'r mynydd sy'n llithro,ac fel y symud y graig o'i lle,

Job 14