Job 13:8-17 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

8. A gymerwch chwi ei blaid,a dadlau dros Dduw?

9. A fydd yn dda arnoch pan chwilia ef chwi?A ellwch ei dwyllo ef fel y twyllir meidrolyn?

10. Bydd ef yn sicr o'ch cerydduos cymerwch ffafriaeth yn y dirgel.

11. Onid yw ei fawredd yn eich dychryn?Oni ddisgyn ei arswyd arnoch?

12. Geiriau lludw yw eich gwirebau,a chlai yw eich amddiffyniad.

13. “Byddwch ddistaw, a gadewch i mi lefaru,a doed a ddelo arnaf.

14. Cymeraf fy nghnawd rhwng fy nannedd,a'm heinioes yn fy nwylo.

15. Yn sicr, fe'm lladd; nid oes gobaith imi;eto amddiffynnaf fy muchedd o'i flaen.

16. A hyn sy'n rhoi hyder i mi,na all neb annuwiol fynd ato.

17. Gwrandewch yn astud ar fy ngeiriau,a rhowch glust i'm tystiolaeth.

Job 13