Job 13:11-17 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

11. Onid yw ei fawredd yn eich dychryn?Oni ddisgyn ei arswyd arnoch?

12. Geiriau lludw yw eich gwirebau,a chlai yw eich amddiffyniad.

13. “Byddwch ddistaw, a gadewch i mi lefaru,a doed a ddelo arnaf.

14. Cymeraf fy nghnawd rhwng fy nannedd,a'm heinioes yn fy nwylo.

15. Yn sicr, fe'm lladd; nid oes gobaith imi;eto amddiffynnaf fy muchedd o'i flaen.

16. A hyn sy'n rhoi hyder i mi,na all neb annuwiol fynd ato.

17. Gwrandewch yn astud ar fy ngeiriau,a rhowch glust i'm tystiolaeth.

Job 13