Job 12:17-25 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

17. Gwna i gynghorwyr gerdded yn droednoeth,a gwawdia farnwyr.

18. Y mae'n datod gwregys brenhinoedd,ac yn rhwymo carpiau am eu llwynau.

19. Gwna i offeiriaid gerdded yn droednoeth,a lloria'r rhai sefydledig.

20. Diddyma ymadrodd y rhai y credir ynddynt,a chymer graffter yr henuriaid oddi wrthynt.

21. Fe dywallt ddirmyg ar bendefigion,a gwanhau nerth y cryfion.

22. Y mae'n datguddio cyfrinachau o'r tywyllwch,ac yn troi'r fagddu yn oleuni.

23. Fe amlha genhedloedd, ac yna fe'u dinistria;fe ehanga genhedloedd, ac yna fe'u dwg ymaith.

24. Diddyma farn penaethiaid y ddaear,a pheri iddynt grwydro mewn diffeithwch di-ffordd;

25. ymbalfalant yn y tywyllwch heb oleuni;fe wna iddynt simsanu fel meddwon.”

Job 12