Job 12:11-17 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

11. Onid yw'r glust yn profi geiriau,fel y mae taflod y genau yn blasu bwyd?

12. “Ai ymhlith yr oedrannus y ceir doethineb,a deall gyda'r rhai sydd ymlaen mewn dyddiau?

13. Gan Dduw y mae doethineb a chryfder,a chyngor a deall sydd eiddo iddo.

14. Os dinistria, nid adeiledir:os carchara neb, nid oes rhyddhad.

15. Os atal ef y dyfroedd, yna y mae sychder;a phan ollwng hwy, yna gorlifant y ddaear.

16. Ganddo ef y mae nerth a gwir ddoethineb;ef biau'r sawl a dwyllir a'r sawl sy'n twyllo.

17. Gwna i gynghorwyr gerdded yn droednoeth,a gwawdia farnwyr.

Job 12