Job 12:1-6 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

1. Atebodd Job:

2. “Yn wir, chwi yw'r bobl,a chyda chwi y derfydd doethineb!

3. Ond y mae gennyf finnau ddeall fel chwithau,ac nid wyf yn salach na chwi;yn wir, pwy sydd heb wybod hyn?

4. “Yr wyf yn gyff gwawd i'm cyfeillion,er imi alw ar Dduw ac iddo yntau ateb;y cyfiawn a'r perffaith yn gyff gwawd!

5. Dirmygir dinistr gan y rhai sydd mewn esmwythyd,a sefydlogrwydd gan y rhai y mae eu traed yn llithro.

6. Llwyddiant sydd ym mhebyll yr anrheithwyr,a diogelwch i'r rhai sy'n blino Duw—rhai wedi cael Duw dan eu bawd!

Job 12