Job 11:9-16 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

9. Y mae ei fesur yn hwy na'r ddaear,ac yn ehangach na'r môr.

10. “Os daw ef heibio, i garcharu neu i alw llys barn,pwy a'i rhwystra?

11. Oherwydd y mae ef yn adnabod pobl dwyllodrus,a phan wêl ddrygioni, onid yw'n sylwi arno?

12. A ddaw'r dwl yn ddeallus—asyn gwyllt yn cael ei eni'n ddyn?

13. “Os cyfeiri dy feddwl yn iawn,fe estynni dy ddwylo tuag ato;

14. ac os oes drygioni ynot, bwrw ef ymhell oddi wrthyt,ac na thriged anghyfiawnder yn dy bebyll;

15. yna gelli godi dy olwg heb gywilydd,a byddi'n gadarn a di-ofn.

16. Fe anghofi orthrymder;fel dŵr a giliodd y cofi amdano.

Job 11