Job 11:6-11 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

6. a hysbysu iti gyfrinachau doethineb,a bod dwy ochr i ddeall!Yna gwybydd fod Duw yn anghofio peth o'th gamwedd.

7. A elli di ddarganfod dirgelwch Duw,neu gyrraedd at gyflawnder yr Hollalluog?

8. Y mae'n uwch na'r nefoedd. Beth a wnei di?Y mae'n is na Sheol. Beth a wyddost ti?

9. Y mae ei fesur yn hwy na'r ddaear,ac yn ehangach na'r môr.

10. “Os daw ef heibio, i garcharu neu i alw llys barn,pwy a'i rhwystra?

11. Oherwydd y mae ef yn adnabod pobl dwyllodrus,a phan wêl ddrygioni, onid yw'n sylwi arno?

Job 11