Jeremeia 9:6-9 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

6. Pentyrrant ormes ar ormes, twyll ar dwyll;gwrthodant fy adnabod i,” medd yr ARGLWYDD.

7. Am hynny, fel hyn y dywed ARGLWYDD y Lluoedd:“Rwyf am eu toddi a'u puro hwy.Beth arall a wnaf o achos merch fy mhobl?

8. Saeth yn lladd yw eu tafod; y mae'n llefaru'n dwyllodrus.Y mae'n traethu heddwch wrth ei gymydog, ond yn ei galon yn gosod cynllwyn iddo.

9. Onid ymwelaf â hwy am y pethau hyn?” medd yr ARGLWYDD.“Oni ddialaf ar y fath genedl â hon?

Jeremeia 9