Jeremeia 9:18-22 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

18. Bydded iddynt frysio, a chodi cwynfan amdanom,er mwyn i'n llygaid ollwng dagrau,a'n hamrannau ddiferu dŵr.

19. Canys clywyd sŵn cwynfan o Seion,‘Pa fodd yr aethom yn anrhaith,a'n gwaradwyddo yn llwyr?Gadawsom ein gwlad, bwriwyd i lawr ein trigfannau.’ ”

20. Clywch, wragedd, air yr ARGLWYDD,a derbynied eich clust air ei enau ef.Dysgwch gwynfan i'ch merched,a galargan bawb i'w gilydd.

21. Y mae angau wedi dringo trwy ein ffenestri,a dod i'n palasau,i ysgubo'r plant o'r heolydda'r rhai ifainc o'r lleoedd agored.

22. Llefara, “Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD:“ ‘Bydd celaneddau yn disgyn fel tom ar wyneb maes,fel ysgubau ar ôl y medelwr heb neb i'w cynnull.’ ”

Jeremeia 9