17. “Dyma fi'n anfon seirff i'ch mysg,gwiberod na ellir eu swyno,ac fe'ch brathant,” medd yr ARGLWYDD.
18. Y mae fy ngofid y tu hwnt i wellhad,a'm calon wedi clafychu.
19. Clyw! Cri merch fy mhobl o wlad bellennig:“Onid yw'r ARGLWYDD yn Seion? Onid yw ei brenin ynddi?”“Pam y maent yn fy nigio â'u delwau, â'u heilunod estron?”
20. “Aeth y cynhaeaf heibio, darfu'r haf, a ninnau heb ein hachub.”
21. Oherwydd briw merch fy mhobl yr wyf finnau wedi fy mriwo,wedi galaru, ac wedi fy nal gan syndod.