24. Ond ni wrandawsant nac estyn clust, ond rhodio yn ôl eu barn eu hunain, ac yn ystyfnigrwydd eu calon ddrwg. Aethant yn ôl ac nid ymlaen.
25. O'r dydd y daeth eich hynafiaid o wlad yr Aifft hyd y dydd hwn, mi anfonais atoch bob dydd fy ngweision y proffwydi; anfonais hwy yn gyson.
26. Ond ni wrandawsant arnaf nac estyn clust, ond caledu gwar a gwneud yn waeth na'u hynafiaid.
27. Lleferi wrthynt yr holl bethau hyn, ond ni wrandawant arnat; gelwi arnynt, ac ni'th atebant.
28. A dywedi wrthynt, ‘Hon yw'r genedl a wrthododd wrando ar yr ARGLWYDD ei Duw, ac ni dderbyniodd gerydd. Darfu am wirionedd; fe'i torrwyd ymaith o'u genau.’
29. Cneifia dy wallt, bwrw ef ymaith. Cyfod gwynfan ar yr uchel-leoedd; gwrthododd yr ARGLWYDD y genhedlaeth y digiodd wrthi, a bwriodd hi ymaith.
30. Canys gwnaeth pobl Jwda ddrwg yn fy ngolwg,” medd yr ARGLWYDD, “trwy osod eu ffieidd-dra yn y tŷ y gelwir fy enw i arno, a'i halogi.
31. Adeiladasant uchelfeydd i Toffet, sydd yn nyffryn Ben-hinnom, i losgi eu meibion a'u merched yn y tân. Ni orchmynnais hyn, ac ni ddaeth i'm meddwl.
32. Am hynny fe ddaw y dyddiau,” medd yr ARGLWYDD, “nas gelwir mwyach yn Toffet nac yn ddyffryn Ben-hinnom, ond yn ddyffryn y lladdfa; a chleddir yn Toffet, o ddiffyg lle.