9. Fel hyn y dywed ARGLWYDD y Lluoedd:“Lloffa weddill Israel yn lân, fel lloffa gwinwydd;fel casglwr grawnwin tyn dy law eilwaith dros y brigau.”
10. Â phwy y llefaraf i'w rhybuddio, a pheri iddynt glywed?Wele, y mae eu clust yn gaeedig, ac ni allant ddal sylw.Wele, y mae gair yr ARGLWYDD yn ddirmyg iddynt; nid ydynt yn ei ddymuno.
11. Yr wyf finnau'n llawn o lid yr ARGLWYDD; yr wyf wedi blino ar ymatal.“Tywelltir ef ar y plant yn yr heol,ac ar gynulliadau'r ifainc hefyd;delir y gŵr a'r wraig fel ei gilydd,yr hynafgwr a'r aeddfed mewn dyddiau.
12. Trosglwyddir eu tai i eraill,a'u meysydd a'u gwragedd ynghyd;canys estynnaf fy llaw ar drigolion y wlad,” medd yr ARGLWYDD.
13. “O'r lleiaf hyd y mwyaf ohonynt, y mae pob un yn awchu am elw;o'r proffwyd i'r offeiriad, y maent bob un yn gweithredu'n ffals.
14. Dim ond yn arwynebol y maent wedi iacháu briw fy mhobl,gan ddweud, ‘Heddwch! Heddwch!’—ac nid oes heddwch.
15. A oes arnynt gywilydd pan wnânt ffieidd-dra?Dim cywilydd o gwbl, ac ni allant wrido.Am hynny fe syrthiant gyda'r syrthiedig;yn nydd eu cosbi fe gwympant,” medd yr ARGLWYDD.
16. Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD: “Safwch ar y ffyrdd; edrychwch, ac ymofyn am yr hen lwybrau. Ple bynnag y cewch ffordd dda, rhodiwch ynddi, ac fe gewch le i orffwys.” Ond dywedasant, “Ni rodiwn ni ddim ynddi.”
17. “Gosodaf wylwyr drosoch,” meddai, “gwrandewch ar sain yr utgorn.” Ond dywedasant, “Ni wrandawn ni ddim.”
18. “Am hynny clywch, genhedloedd, a gwybydd, gynulliad, beth a ddigwydd iddynt.
19. Clyw, wlad, rwyf am ddwyn drwg ar y bobl hyn, ffrwyth eu bwriadau hwy eu hunain. Ni wrandawsant ar fy ngeiriau, a gwrthodasant fy nghyfraith.
20. Pam y cludir i mi thus o Sheba, a chorsen bêr o wlad bell? Nid oes pleser i mi yn eich poethoffrwm, na boddhad yn eich aberth.”
21. Am hynny fe ddywed yr ARGLWYDD,“Rwyf am osod i'r bobl hyn feini tramgwydd a'u dwg i lawr;tadau a phlant ynghyd, cymydog a chyfaill, fe'u difethir.”