Jeremeia 6:28-30 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

28. Y maent i gyd yn gyndyn ac ystyfnig, yn byw yn enllibus.Pres a haearn ydynt; y maent i gyd yn peri distryw.

29. Y mae'r fegin yn chwythu'n gryf, a'r plwm wedi darfod gan y tân;yn ofer y toddodd y toddydd, oherwydd ni symudwyd y drygioni.

30. Arian gwrthodedig y gelwir hwy, oherwydd gwrthododd yr ARGLWYDD hwy.”

Jeremeia 6