Jeremeia 6:22-30 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

22. Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD:“Wele, y mae pobl yn dod o dir y gogledd;cenedl gref yn ymysgwyd o bellafoedd y ddaear.

23. Gafaelant mewn bwa a gwaywffon, y maent yn greulon a didostur;y mae eu twrf fel y môr yn rhuo, marchogant feirch,a dod yn rhengoedd, fel gwŷr yn mynd i ryfela, yn dy erbyn di, ferch Seion.”

24. Clywsom y newydd amdanynt, a llaesodd ein dwylo;daliwyd ni gan ddychryn, gwewyr fel gwraig yn esgor.

25. Paid â mynd allan i'r maes, na rhodio ar y ffordd,oherwydd y mae gan y gelyn gleddyf, ac y mae dychryn ar bob llaw.

26. Merch fy mhobl, gwisga sachliain, ymdreigla yn y lludw;gwna alarnad fel am unig blentyn, galarnad chwerw;oherwydd yn ddisymwth y daw'r distrywiwr arnom.

27. “Gosodais di yn safonwr ac yn brofwr ymhlith fy mhobl,i wybod ac i brofi eu ffyrdd.

28. Y maent i gyd yn gyndyn ac ystyfnig, yn byw yn enllibus.Pres a haearn ydynt; y maent i gyd yn peri distryw.

29. Y mae'r fegin yn chwythu'n gryf, a'r plwm wedi darfod gan y tân;yn ofer y toddodd y toddydd, oherwydd ni symudwyd y drygioni.

30. Arian gwrthodedig y gelwir hwy, oherwydd gwrthododd yr ARGLWYDD hwy.”

Jeremeia 6