Jeremeia 52:8-22 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

8. Aeth llu'r Caldeaid i ymlid y brenin, a goddiweddyd Sedeceia yn rhosydd Jericho, a'i holl lu ar wasgar oddi wrtho.

9. Daliwyd y brenin, a'i ddwyn o flaen brenin Babilon yn Ribla, yng ngwlad Hamath; a barnwyd ei achos ef.

10. Lladdodd brenin Babilon feibion Sedeceia o flaen ei lygaid; lladdodd hefyd holl benaethiaid Jwda yn Ribla.

11. Yna fe dynnodd lygaid Sedeceia, a'i rwymo â chadwyni, a dygodd brenin Babilon ef i Fabilon, a'i roi mewn carchar hyd ddydd ei farw.

12. Yn y pumed mis, ar y degfed dydd o'r mis, yn y bedwaredd flwyddyn ar bymtheg i'r Brenin Nebuchadnesar, brenin Babilon, daeth Nebusaradan, pennaeth y gosgorddlu oedd yn gwasanaethu'r brenin, i Jerwsalem,

13. a llosgi â thân dŷ'r ARGLWYDD, a thŷ'r brenin, a'r holl dai yn Jerwsalem, sef holl dai y bobl fawr.

14. Drylliodd llu y Caldeaid, a oedd gyda phennaeth y gosgorddlu, yr holl furiau oedd yn amgylchu Jerwsalem.

15. Caethgludodd Nebusaradan, capten y gwarchodlu, weddill y bobl dlawd a adawyd ar ôl yn y ddinas, a hefyd y rhai a giliodd at frenin Babilon, ynghyd â gweddill y crefftwyr.

16. Ond gadawodd Nebusaradan, pennaeth y gosgorddlu, rai o dlodion y wlad i fod yn winllanwyr ac amaethwyr.

17. Drylliodd y Caldeaid y colofnau pres oedd yn nhŷ'r ARGLWYDD, a'r trolïau a'r môr pres yn nhŷ'r ARGLWYDD, a chymryd y pres i Fabilon;

18. cymerasant hefyd y crochanau, y rhawiau, y sisyrnau, y cawgiau, y thuserau, a'r holl lestri pres a oedd yng ngwasanaeth y deml.

19. Cymerodd pennaeth y gosgorddlu y celfi o fetel gwerthfawr, yn aur ac yn arian—ffiolau, pedyll tân, cawgiau, crochanau, canwyllbrennau, thuserau, a chwpanau diodoffrwm.

20. Nid oedd terfyn ar bwysau'r pres yn yr holl lestri hyn, sef y ddwy golofn, y môr a'r deuddeg ych pres oddi tano, a'r trolïau yr oedd Solomon wedi eu gwneud i dŷ'r ARGLWYDD.

21. Ynglŷn â'r colofnau: yr oedd y naill yn ddeunaw cufydd o uchder, a'i hamgylchedd yn ddeuddeg cufydd; yr oedd yn wag o'i mewn, a thrwch y metel yn bedair modfedd.

22. Ar ei phen yr oedd cnap pres, a'i uchder yn bum cufydd, a rhwydwaith a phomgranadau o amgylch y cnap, y cwbl o bres. Ac yr oedd y golofn arall, gyda'i phomgranadau, yr un fath.

Jeremeia 52