Jeremeia 52:15-19 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

15. Caethgludodd Nebusaradan, capten y gwarchodlu, weddill y bobl dlawd a adawyd ar ôl yn y ddinas, a hefyd y rhai a giliodd at frenin Babilon, ynghyd â gweddill y crefftwyr.

16. Ond gadawodd Nebusaradan, pennaeth y gosgorddlu, rai o dlodion y wlad i fod yn winllanwyr ac amaethwyr.

17. Drylliodd y Caldeaid y colofnau pres oedd yn nhŷ'r ARGLWYDD, a'r trolïau a'r môr pres yn nhŷ'r ARGLWYDD, a chymryd y pres i Fabilon;

18. cymerasant hefyd y crochanau, y rhawiau, y sisyrnau, y cawgiau, y thuserau, a'r holl lestri pres a oedd yng ngwasanaeth y deml.

19. Cymerodd pennaeth y gosgorddlu y celfi o fetel gwerthfawr, yn aur ac yn arian—ffiolau, pedyll tân, cawgiau, crochanau, canwyllbrennau, thuserau, a chwpanau diodoffrwm.

Jeremeia 52