Jeremeia 51:60-64 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

60. Ysgrifennodd Jeremeia mewn llyfr yr holl aflwydd oedd i ddod ar Fabilon, yr holl eiriau hyn a ysgrifennwyd yn erbyn Babilon.

61. A dywedodd Jeremeia wrth Seraia, “Pan ddoi i Fabilon, edrych ar hwn, a darllen yr holl eiriau hyn,

62. ac yna dywed, ‘O ARGLWYDD, lleferaist yn erbyn y lle hwn i'w ddinistrio, fel na byddai ynddo na dyn nac anifail yn byw, ond iddo fod yn anghyfannedd tragwyddol.’

63. Pan orffenni ddarllen y llyfr, rhwyma garreg wrtho a'i fwrw i ganol afon Ewffrates,

64. a dywed, ‘Fel hyn y suddir Babilon; ni fydd yn codi mwyach wedi'r dinistr a ddygaf arni; a diffygiant.’ ” Dyma ddiwedd geiriau Jeremeia.

Jeremeia 51