Jeremeia 51:50-53 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

50. Ewch heb oedi, chwi y rhai a ddihangodd rhag y cleddyf; cofiwch yr ARGLWYDD yn y pellteroedd, galwch Jerwsalem i gof.

51. ‘Gwaradwyddwyd ni,’ meddwch, ‘pan glywsom gerydd, gorchuddiwyd ein hwyneb â gwarth, canys daeth estroniaid i gynteddoedd sanctaidd tŷ'r ARGLWYDD.’

52. “Am hynny, dyma'r dyddiau'n dod,” medd yr ARGLWYDD, “y cosbaf ei delwau ac y griddfana'r rhai clwyfedig trwy'r holl wlad.

53. Er i Fabilon ddyrchafu i'r nefoedd, a diogelu ei hamddiffynfa uchel, daw ati anrheithwyr oddi wrthyf fi,” medd yr ARGLWYDD.

Jeremeia 51