Jeremeia 51:3-10 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

3. Na thynned y saethwr ei fwa,na gwisgo'i lurig.Peidiwch ag arbed ei gwŷr ifainc,difethwch yn llwyr ei holl lu.

4. Syrthiant yn farw yn nhir y Caldeaid,wedi eu trywanu yn ei heolydd hi.

5. Canys ni adewir Israel na Jwda yn weddwgan eu Duw, gan ARGLWYDD y Lluoedd;ond y mae gwlad y Caldeaid yn llawn euogrwyddyn erbyn Sanct Israel.

6. Ffowch o ganol Babilon,achubed pob un ei hunan.Peidiwch â chymryd eich difetha gan ei drygioni hi,canys amser dial yw hwn i'r ARGLWYDD;y mae ef yn talu'r pwyth iddi hi.

7. Cwpan aur oedd Babilon yn llaw'r ARGLWYDD,yn meddwi'r holl ddaear;byddai'r cenhedloedd yn yfed o'i gwin,a'r cenhedloedd felly'n mynd yn ynfyd.

8. Yn ddisymwth syrthiodd Babilon, a drylliwyd hi;udwch drosti!Cymerwch falm i'w dolur,i edrych a gaiff hi ei hiacháu.

9. Ceisiem iacháu Babilon, ond ni chafodd ei hiacháu;gadewch hi, ac awn bawb i'w wlad.Canys cyrhaeddodd ei barnedigaeth i'r nefoedd,a dyrchafwyd hi hyd yr wybren.

10. Bu i'r ARGLWYDD ein cyfiawnhau.Dewch, traethwn yn Seionwaith yr ARGLWYDD ein Duw.

Jeremeia 51