39. “Am hynny bydd anifeiliaid yr anialdir a'r hiena yn trigo yno, a'r estrys yn cael cartref yno; ni fydd neb yn preswylio yno mwyach, ac nis cyfanheddir o genhedlaeth i genhedlaeth.
40. Fel y dymchwelodd Duw Sodom a Gomorra a'u cymdogaeth,” medd yr ARGLWYDD, “felly ni fydd neb yn byw yno, nac unrhyw un yn tramwyo ynddi.
41. “Wele, y mae pobl yn dod o'r gogledd—cenedl fawr a brenhinoedd laweryn ymysgwyd o bellteroedd byd.
42. Gafaelant yn y bwa a'r waywffon;y maent yn greulon a didostur;y mae eu twrf fel y môr yn rhuo;marchogant ar feirch,a dod yn rhengoedd fel gwŷr i ryfelyn dy erbyn di, ferch Babilon.
43. Clywodd brenin Babilon sôn amdanynt,ac aeth ei ddwylo'n llesg;daliwyd ef gan wasgfa,a gwewyr fel eiddo gwraig wrth esgor.
44. “Wele, fel llew'n dod i fyny o wlad wyllt yr Iorddonen i'r borfa barhaol, fe'u hymlidiaf ymaith yn ddisymwth oddi wrthi. Pwy a ddewisaf i'w osod drosti? Oherwydd pwy sydd fel myfi? Pwy a'm geilw i gyfrif? Pwy yw'r bugail a saif o'm blaen i?
45. Am hynny, clywch yr hyn a fwriadodd yr ARGLWYDD yn erbyn Babilon, a'i gynlluniau yn erbyn gwlad y Caldeaid. Yn ddiau fe lusgir ymaith hyd yn oed y lleiaf o'r praidd; yn wir bydd eu porfeydd yn arswydo o'u plegid.
46. Bydd y ddaear yn crynu gan sŵn dal Babilon; clywir ei chri ymhlith y cenhedloedd.”