Jeremeia 50:1-3 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

1. Dyma'r gair a lefarodd yr ARGLWYDD am Fabilon, gwlad y Caldeaid, trwy'r proffwyd Jeremeia:

2. “Mynegwch ymysg y cenhedloedd, a chyhoeddwch;codwch faner a chyhoeddwch;peidiwch â chelu ond dywedwch,‘Goresgynnwyd Babilon, gwaradwyddwyd Bel, brawychwyd Merodach.Daeth cywilydd dros ei heilunod a drylliwyd ei delwau.’

3. Canys daeth cenedl yn ei herbyn o'r gogledd;gwna ei gwlad yn anghyfannedd,ac ni thrig ynddi na dyn nac anifail.Ffoesant ac aethant ymaith.”

Jeremeia 50