Jeremeia 5:6-18 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

6. Am hyn, bydd llew o'r coed yn eu taro i lawr,a blaidd o'r anialwch yn eu distrywio;bydd llewpard yn gwylio'u dinasoeddac yn llarpio pob un a ddaw allan ohonynt;oherwydd amlhaodd eu troseddau a chynyddodd eu gwrthgiliad.

7. “Sut y maddeuaf iti am hyn?Y mae dy blant wedi fy ngadael,ac wedi tyngu i'r rhai nad ydynt dduwiau.Diwellais hwy, eto gwnaethant odineb a heidio i dŷ'r butain.

8. Yr oeddent fel meirch nwydus a phorthiannus,pob un yn gweryru am gaseg ei gymydog.

9. Onid ymwelaf â chwi am hyn?” medd yr ARGLWYDD.“Oni ddialaf ar y fath genedl â hon?

10. “Tramwywch trwy ei rhesi gwinwydd, a dinistriwch hwy,ond peidiwch â gwneud diwedd llwyr.Torrwch ymaith ei brigau, canys nid eiddo'r ARGLWYDD mohonynt.

11. Oherwydd bradychodd tŷ Israel a thŷ Jwda fi'n llwyr,” medd yr ARGLWYDD.

12. Buont yn gelwyddog am yr ARGLWYDD a dweud, “Ni wna ef ddim.Ni ddaw drwg arnom, ni welwn gleddyf na newyn;

13. nid yw'r proffwydi ond gwynt, nid yw'r gair yn eu plith.Fel hyn y gwneir iddynt.”

14. Am hynny, dyma air yr ARGLWYDD, Duw y Lluoedd:“Am i chwi siarad fel hyn,dyma fi'n rhoi fy ngeiriau yn dy enau fel tân,a'r bobl hyn yn gynnud, ac fe'u difa.

15. Wele, fe ddygaf yn eich erbyn, dŷ Israel, genedl o bell—hen genedl, cenedl o'r oesoedd gynt,” medd yr ARGLWYDD,“cenedl nad wyt yn gwybod ei hiaith, nac yn deall yr hyn y mae'n ei ddweud.

16. Y mae ei chawell saethau fel bedd agored;gwŷr cedyrn ydynt oll.

17. Fe ysa dy gynhaeaf a'th fara;ysa dy feibion a'th ferched;ysa dy braidd a'th wartheg;ysa dy winwydd a'th ffigyswydd;distrywia â chleddyf dy ddinasoedd caerog,y dinasoedd yr wyt yn ymddiried ynddynt.

18. “Ac eto yn y dyddiau hynny,” medd yr ARGLWYDD, “ni ddygaf ddiwedd llwyr arnoch.

Jeremeia 5