Jeremeia 5:27-31 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

27. Fel y mae cawell yn llawn o adar,felly y mae eu tai yn llawn o dwyll.

28. Trwy hynny aethant yn fawr a chyfoethog, yn dew a bras.Aethant hefyd y tu hwnt i weithredoedd drwg;ni roddant ddedfryd deg i'r amddifad, i beri iddo lwyddo,ac nid ydynt yn iawn farnu achos y tlawd.

29. Onid ymwelaf â chwi am hyn?’ medd yr ARGLWYDD.‘Oni ddialaf ar y fath genedl â hon?

30. Peth aruthr ac erchyll a ddaeth i'r wlad.

31. Y mae'r proffwydi yn proffwydo celwydd,a'r offeiriaid yn cyfarwyddo'n unol â hynny,a'm pobl yn hoffi'r peth.Ond beth a wnewch yn y diwedd?’ ”

Jeremeia 5