Jeremeia 5:22-25 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

22. Onid oes arnoch fy ofn i?’ medd yr ARGLWYDD. ‘Oni chrynwch o'm blaen?Mi osodais y tywod yn derfyn i'r môr,yn derfyn sicr na all ei groesi;pan ymgasgla'r tonnau ni thyciant,pan rua'r dyfroedd nid ânt drosto.

23. Ond calon wrthnysig a gwrthryfelgar sydd gan y bobl hyn;y maent yn parhau i wrthgilio.

24. Ac ni ddywedant yn eu calon, “Bydded inni ofni'r ARGLWYDD ein Duw,sy'n rhoi'r glaw, a chawodydd y gwanwyn a'r hydref yn eu pryd,a sicrhau i ni wythnosau penodedig y cynhaeaf.”

25. Ond y mae eich camweddau wedi rhwystro hyn,a'ch pechodau wedi atal daioni rhagoch.

Jeremeia 5