16. Y mae ei chawell saethau fel bedd agored;gwŷr cedyrn ydynt oll.
17. Fe ysa dy gynhaeaf a'th fara;ysa dy feibion a'th ferched;ysa dy braidd a'th wartheg;ysa dy winwydd a'th ffigyswydd;distrywia â chleddyf dy ddinasoedd caerog,y dinasoedd yr wyt yn ymddiried ynddynt.
18. “Ac eto yn y dyddiau hynny,” medd yr ARGLWYDD, “ni ddygaf ddiwedd llwyr arnoch.
19. Pan ddywedwch, ‘Pam y gwnaeth yr ARGLWYDD ein Duw yr holl bethau hyn i ni?’, fe ddywedi wrthynt, ‘Fel y bu i chwi fy ngwrthod i, a gwasanaethu duwiau estron yn eich tir, felly y gwasanaethwch bobl ddieithr mewn gwlad nad yw'n eiddo i chwi.’
20. “Mynegwch hyn yn nhŷ Jacob, cyhoeddwch hyn yn Jwda a dweud,
21. ‘Clywch hyn yn awr, bobl ynfyd, ddiddeall:y mae ganddynt lygaid, ond ni welant; clustiau, ond ni chlywant.