Jeremeia 5:14-17 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

14. Am hynny, dyma air yr ARGLWYDD, Duw y Lluoedd:“Am i chwi siarad fel hyn,dyma fi'n rhoi fy ngeiriau yn dy enau fel tân,a'r bobl hyn yn gynnud, ac fe'u difa.

15. Wele, fe ddygaf yn eich erbyn, dŷ Israel, genedl o bell—hen genedl, cenedl o'r oesoedd gynt,” medd yr ARGLWYDD,“cenedl nad wyt yn gwybod ei hiaith, nac yn deall yr hyn y mae'n ei ddweud.

16. Y mae ei chawell saethau fel bedd agored;gwŷr cedyrn ydynt oll.

17. Fe ysa dy gynhaeaf a'th fara;ysa dy feibion a'th ferched;ysa dy braidd a'th wartheg;ysa dy winwydd a'th ffigyswydd;distrywia â chleddyf dy ddinasoedd caerog,y dinasoedd yr wyt yn ymddiried ynddynt.

Jeremeia 5