Jeremeia 49:13-17 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

13. Canys tyngais i mi fy hun,” medd yr ARGLWYDD, “y bydd Bosra yn anghyfannedd, yn warth, yn anialwch ac yn felltith, a'i holl ddinasoedd yn ddiffeithwch oesol.”

14. Clywais genadwri gan yr ARGLWYDD;anfonwyd cennad i blith y cenhedloedd:“Ymgasglwch, dewch yn ei herbyn,codwch i'r frwydr.

15. Canys wele, gwnaf di'n fach ymysg y cenhedloedd,yn ddirmygedig ymhlith pobloedd.

16. Y mae'r arswyd a beraist wedi dy dwyllo;gwnaeth dy galon yn falch.Tydi sy'n trigo yn holltau'r graigac yn glynu wrth grib y bryniau,er i ti osod dy nyth cyn uched â'r eryr,fe'th hyrddiaf i lawr oddi yno,” medd yr ARGLWYDD.

17. “Bydd Edom yn anghyfannedd, a phawb sy'n mynd heibio yn arswydo, gan synnu oherwydd ei holl glwyfau.

Jeremeia 49