Jeremeia 49:11-13 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

11. Gad dy rai amddifaid; fe'u cadwaf yn fyw;bydded i'th weddwon ymddiried ynof fi.”

12. Oherwydd fel hyn y dywed yr ARGLWYDD; “Wele, y rhai ni ddyfarnwyd iddynt yfed o'r cwpan, bu raid iddynt yfed. A ddihengi di yn ddigerydd? Na wnei, ond bydd raid i tithau yfed.

13. Canys tyngais i mi fy hun,” medd yr ARGLWYDD, “y bydd Bosra yn anghyfannedd, yn warth, yn anialwch ac yn felltith, a'i holl ddinasoedd yn ddiffeithwch oesol.”

Jeremeia 49