Jeremeia 48:2-6 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

2. Ni bydd gogoniant Moab mwyach;yn Hesbon cynlluniwyd drwg yn eu herbyn:‘Dewch, dinistriwn hi fel na bydd yn genedl!’Distewir dithau, Madmen,erlidia'r cleddyf di.

3. Clyw waedd o Horonaim,‘Anrhaith a dinistr mawr!’

4. Dinistriwyd Moab;clywir ei gwaedd hyd yn Soar.

5. Canys dringant riw Luhithdan wylo'n chwerw;ac ar lechwedd Horonaimclywir cri ddolefus dinistr.

6. Ffowch, dihangwch am eich einioes,fel y gwna'r asyn gwyllt yn yr anialwch.

Jeremeia 48