Jeremeia 48:11-15 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

11. “Bu'n esmwyth ar Moab erioed;gorffwysodd fel gwin ar ei waddod;nis tywalltwyd o lestr i lestr;nid aeth hi i gaethiwed.Felly y cadwodd ei blas,ac ni newidiodd ei sawr.

12. “Am hynny, wele'r dyddiau yn dod,” medd yr ARGLWYDD, “yr anfonaf rai i'w hysgwyd; ac ysgydwant hi, a gwacáu ei llestri a dryllio'r costrelau.

13. A chywilyddir Moab o achos Cemos, fel y cywilyddiwyd Israel o achos Bethel, eu hyder hwy.

14. “Pa fodd y dywedwch, ‘Cedyrn ŷm ni,a gwŷr nerthol i ryfel’?

15. Daeth anrheithiwr Moab a'i dinasoedd i fyny,a disgynnodd y gorau o'i hieuenctid i'r lladdfa,”medd y Brenin—ARGLWYDD y Lluoedd yw ei enw.

Jeremeia 48