Jeremeia 46:20-28 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

20. “Heffer gyda'r brydferthaf yw'r Aifft,ond daeth cleren o'r gogledd arni.

21. Yr oedd ei milwyr cyflog yn ei chanolfel lloi pasgedig;a throesant hwythau hefyd ymaith,a ffoi ynghyd, heb oedi;canys daeth dydd eu gofid arnynt,ac awr eu cosbi.

22. Y mae ei sŵn fel sarff yn hisian,canys daeth y gelyn yn llu,daeth yn ei herbyn â bwyeill;fel rhai yn cymynu coed,

23. torrant i lawr ei choedydd,” medd yr ARGLWYDD.“Canys ni ellir eu rhifo;y maent yn amlach eu rhif na locustiaid,heb rifedi arnynt.

24. Cywilyddir merch yr Aifft,a'i rhoi yng ngafael pobl y gogledd.”

25. Dywedodd ARGLWYDD y Lluoedd, Duw Israel, “Byddaf yn cosbi Thebes, a Pharo a'r Aifft, a'i duwiau a'i brenhinoedd, Pharo a'r rhai sy'n ymddiried ynddo.

26. Rhof hwy yng ngafael y rhai sy'n ceisio'u heinioes, yng ngafael Nebuchadnesar brenin Babilon, ac yng ngafael ei weision; ac wedi hynny cyfanheddir hi fel o'r blaen,” medd yr ARGLWYDD.

27. “Ond tydi, fy ngwas Jacob, paid ag ofni;paid ag arswydo, Israel;canys dyma fi'n dy achub o bell,a'th had o wlad eu caethiwed.Bydd Jacob yn dychwelyd ac yn cael llonydd;bydd yn esmwyth arno, ac ni fydd neb i'w ddychryn.

28. Tydi, fy ngwas Jacob, paid ag ofni,” medd yr ARGLWYDD,“canys yr wyf fi gyda thi;gwnaf ddiwedd ar yr holl genhedloeddy gyrrais di atynt;ond ni wnaf ddiwedd arnat ti.Disgyblaf di mewn barn,ni'th adawaf yn ddi-gosb.”

Jeremeia 46