1. Dyma air yr ARGLWYDD, a ddaeth at y proffwyd Jeremeia ynglŷn â'r cenhedloedd,
2. am yr Aifft, ynglŷn â lluoedd Pharo Necho brenin yr Aifft pan oeddent yn Carchemis yn ymyl yr Ewffrates, wedi i Nebuchadnesar brenin Babilon eu gorchfygu yn y bedwaredd flwyddyn i Jehoiacim fab Joseia, brenin Jwda:
3. “Cymerwch fwcled a tharian,ewch yn eich blaen i'r frwydr.
4. Cenglwch y ceffylau,marchogwch y meirch,safwch yn barod, pawb â'i helm,gloywch eich gwaywffyn,gwisgwch eich llurigau.
5. Beth a welaf? Y maent mewn braw,ciliant yn ôl, lloriwyd eu cedyrn;ffoesant ar ffrwst, heb edrych yn ôl;dychryn ar bob llaw!” medd yr ARGLWYDD.
6. “Ni all y buan ffoi,na'r cadarn ddianc;tua'r gogledd ar lan yr Ewffratesy baglant ac y syrthiant.
7. “Pwy yw hon sy'n codi fel y Neil,fel afonydd â'u dyfroedd yn dygyfor?
8. Yr Aifft sy'n codi fel y Neil,fel afonydd â'u dyfroedd yn dygyfor.Ac meddai, ‘Fe godaf a gorchuddio'r ddaear;dinistriaf bob dinas a'i thrigolion.’
9. Ymlaen, chwi feirch;rhuthrwch, chwi gerbydau rhyfel.Allan, chwi wŷr cedyrn—Ethiopiaid a gwŷr Put, sy'n dwyn tarian;gwŷr o Lydia, sy'n arfer tynnu bwa.
10. Hwn yw dydd ARGLWYDD Dduw'r Lluoedd,dydd dialedd i ddial ar ei elynion.Ysa'r cleddyf nes syrffedu;meddwa ar eu gwaed.Canys bydd ARGLWYDD Dduw'r Lluoedd yn cynnal aberthyng ngwlad y gogledd, wrth afon Ewffrates.
11. Dos i fyny i Gilead, a chymer falm,O wyryf, ferch yr Aifft;yn ofer y cymeraist gyffuriau lawer,canys ni fydd gwellhad i ti.
12. Fe glyw'r cenhedloedd am dy waradwydd,ac y mae dy waedd yn llenwi'r ddaear;cadarn yn syrthio yn erbyn cadarn,a'r ddau'n cwympo gyda'i gilydd.”