Jeremeia 46:1-10 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

1. Dyma air yr ARGLWYDD, a ddaeth at y proffwyd Jeremeia ynglŷn â'r cenhedloedd,

2. am yr Aifft, ynglŷn â lluoedd Pharo Necho brenin yr Aifft pan oeddent yn Carchemis yn ymyl yr Ewffrates, wedi i Nebuchadnesar brenin Babilon eu gorchfygu yn y bedwaredd flwyddyn i Jehoiacim fab Joseia, brenin Jwda:

3. “Cymerwch fwcled a tharian,ewch yn eich blaen i'r frwydr.

4. Cenglwch y ceffylau,marchogwch y meirch,safwch yn barod, pawb â'i helm,gloywch eich gwaywffyn,gwisgwch eich llurigau.

5. Beth a welaf? Y maent mewn braw,ciliant yn ôl, lloriwyd eu cedyrn;ffoesant ar ffrwst, heb edrych yn ôl;dychryn ar bob llaw!” medd yr ARGLWYDD.

6. “Ni all y buan ffoi,na'r cadarn ddianc;tua'r gogledd ar lan yr Ewffratesy baglant ac y syrthiant.

7. “Pwy yw hon sy'n codi fel y Neil,fel afonydd â'u dyfroedd yn dygyfor?

8. Yr Aifft sy'n codi fel y Neil,fel afonydd â'u dyfroedd yn dygyfor.Ac meddai, ‘Fe godaf a gorchuddio'r ddaear;dinistriaf bob dinas a'i thrigolion.’

9. Ymlaen, chwi feirch;rhuthrwch, chwi gerbydau rhyfel.Allan, chwi wŷr cedyrn—Ethiopiaid a gwŷr Put, sy'n dwyn tarian;gwŷr o Lydia, sy'n arfer tynnu bwa.

10. Hwn yw dydd ARGLWYDD Dduw'r Lluoedd,dydd dialedd i ddial ar ei elynion.Ysa'r cleddyf nes syrffedu;meddwa ar eu gwaed.Canys bydd ARGLWYDD Dduw'r Lluoedd yn cynnal aberthyng ngwlad y gogledd, wrth afon Ewffrates.

Jeremeia 46