Jeremeia 41:8-14 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

8. Ond dywedodd deg o ddynion o'u plith wrth Ismael, “Paid â'n lladd ni, oherwydd y mae gennym yn y maes gronfa gudd o wenith a haidd ac olew a mêl.” Felly ni laddwyd y rhain gyda'u cymdeithion.

9. Y pydew yr oedd y Brenin Asa wedi ei gloddio pan fygythiwyd ef gan Baasa brenin Israel oedd yr un y bwriodd Ismael iddo holl gelaneddau'r gwŷr yr oedd wedi eu lladd trwy eu twyllo ag enw Gedaleia. Llanwodd Ismael fab Nethaneia y pydew â'r lladdedigion.

10. Yna daliodd Ismael holl weddill y bobl oedd yn Mispa, sef merched y brenin a'r holl bobl oedd wedi eu gadael yn Mispa pan osododd Nebusaradan, pennaeth y gwylwyr, Gedaleia fab Ahicam yn arolygydd drostynt. Daliodd Ismael fab Nethaneia hwy, a chychwynnodd fynd drosodd at yr Ammoniaid.

11. Pan glywodd Johanan fab Carea, a holl swyddogion y lluoedd arfog oedd gydag ef, am yr holl ddrwg yr oedd Ismael fab Nethaneia wedi ei wneud,

12. cymerasant gyda hwy eu holl wŷr i ymladd yn erbyn Ismael fab Nethaneia, a daethant o hyd iddo wrth y pwll mawr yn Gibeon.

13. Llawenychodd yr holl bobl oedd gydag Ismael pan welsant Johanan fab Carea a holl swyddogion ei luoedd,

14. a dyna'r holl bobl yr oedd Ismael wedi eu dwyn yn gaeth o Mispa yn troi ac yn mynd drosodd at Johanan fab Carea.

Jeremeia 41