3. Hefyd lladdodd Ismael yr holl Iddewon oedd gyda Gedaleia yn Mispa, a milwyr y Caldeaid a oedd yn digwydd bod yno.
4. Trannoeth wedi lladd Gedaleia, cyn bod neb yn gwybod,
5. daeth gwŷr o Sichem a Seilo a Samaria, pedwar ugain ohonynt, wedi eillio'u barfau a rhwygo'u dillad ac archolli eu cyrff, â bwydoffrymau a thus yn eu dwylo i'w dwyn i deml yr ARGLWYDD.
6. Yna daeth Ismael fab Nethaneia allan o Mispa i gyfarfod â hwy, gan wylo wrth ddod. Pan gyfarfu â hwy dywedodd, “Dewch at Gedaleia fab Ahicam.”
7. Wedi iddynt gyrraedd canol y ddinas, lladdwyd hwy gan Ismael fab Nethaneia a'r gwŷr oedd gydag ef, a'u bwrw i bydew.