Jeremeia 41:2-5 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

2. cododd Ismael fab Nethaneia a'r dengwr, a tharo Gedaleia fab Ahicam, fab Saffan, â'r cleddyf, a lladd yr un oedd wedi ei osod gan frenin Babilon yn arolygydd dros y wlad.

3. Hefyd lladdodd Ismael yr holl Iddewon oedd gyda Gedaleia yn Mispa, a milwyr y Caldeaid a oedd yn digwydd bod yno.

4. Trannoeth wedi lladd Gedaleia, cyn bod neb yn gwybod,

5. daeth gwŷr o Sichem a Seilo a Samaria, pedwar ugain ohonynt, wedi eillio'u barfau a rhwygo'u dillad ac archolli eu cyrff, â bwydoffrymau a thus yn eu dwylo i'w dwyn i deml yr ARGLWYDD.

Jeremeia 41