Jeremeia 40:12-15 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

12. a dychwelodd yr holl Iddewon o'r mannau lle gwasgarwyd hwy i Jwda, at Gedaleia yn Mispa, a chasglu stôr helaeth o win a ffrwythau haf.

13. Daeth Johanan fab Carea, a holl swyddogion y lluoedd oedd ar hyd y wlad, at Gedaleia yn Mispa,

14. a dweud wrtho, “A wyddost ti fod Baalis brenin yr Ammoniaid wedi anfon Ismael fab Nethaneia i'th ladd di?” Ond ni chredai Gedaleia fab Ahicam hwy.

15. A dywedodd Johanan fab Carea yn gyfrinachol wrth Gedaleia yn Mispa, “Da ti, gad imi fynd, heb yn wybod i neb, a lladd Ismael fab Nethaneia. Pam y caiff ef dy ladd di, a gwasgaru'r holl Iddewon a ymgasglodd atat, a pheri i'r gweddill yn Jwda ddarfod?”

Jeremeia 40