Jeremeia 4:6-13 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

6. Codwch, ffowch tua Seion, ffowch heb sefyllian;oherwydd dygaf ddrygioni o'r gogledd, a dinistr mawr.

7. Daeth llew i fyny o'i loches, cychwynnodd difethwr y cenhedloedd,a daeth allan o'i drigle i wneud dy dir yn anrhaith,ac fe ddinistrir dy ddinasoedd heb breswyliwr.

8. Am hyn ymwregyswch â sachliain, galarwch ac udwch;oherwydd nid yw angerdd llid yr ARGLWYDD wedi troi oddi wrthym.

9. Ac yn y dydd hwnnw,” medd yr ARGLWYDD,“fe balla hyder y brenin a hyder y tywysogion;fe synna'r offeiriaid, ac fe ryfedda'r proffwydi.”

10. Yna dywedais, “O ARGLWYDD Dduw,yr wyt wedi llwyr dwyllo'r bobl hyn a Jerwsalem,gan ddweud, ‘Bydd heddwch i chwi’;ond trywanodd y cleddyf i'r byw.”

11. Yn yr amser hwnnw fe ddywedir wrth y bobl hyn ac wrth Jerwsalem,“Bydd craswynt o'r moelydd uchel yn y diffeithwchyn troi i gyfeiriad merch fy mhobl,

12. nid i nithio nac i buro. Daw gwynt cryf ataf fi;yn awr myfi, ie myfi, a draethaf farn yn eu herbyn hwy.”

13. Wele, bydd yn esgyn fel cymylau, a'i gerbydau fel corwynt,ei feirch yn gyflymach nag eryrod.Gwae ni! Anrheithiwyd ni.

Jeremeia 4