Jeremeia 4:4-7 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

4. Ymenwaedwch i'r ARGLWYDD, symudwch flaengroen eich calon,bobl Jwda a thrigolion Jerwsalem,rhag i'm digofaint ddod allan fel tâna llosgi heb neb i'w ddiffodd,oherwydd drygioni eich gweithredoedd.”

5. “Mynegwch yn Jwda, cyhoeddwch yn Jerwsalem, a dywedwch,‘Canwch utgorn yn y tir, bloeddiwch yn uchel.’A dywedwch, ‘Ymgynullwch, ac awn i'r dinasoedd caerog.’

6. Codwch, ffowch tua Seion, ffowch heb sefyllian;oherwydd dygaf ddrygioni o'r gogledd, a dinistr mawr.

7. Daeth llew i fyny o'i loches, cychwynnodd difethwr y cenhedloedd,a daeth allan o'i drigle i wneud dy dir yn anrhaith,ac fe ddinistrir dy ddinasoedd heb breswyliwr.

Jeremeia 4