Jeremeia 4:21-25 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

21. Pa hyd yr edrychaf ar faner,ac y gwrandawaf ar sain utgorn?

22. Y mae fy mhobl yn ynfyd, nid ydynt yn fy adnabod i;plant angall ydynt, nid rhai deallus mohonynt.Y maent yn fedrus i wneud drygioni, ond ni wyddant sut i wneud daioni.

23. Edrychais tua'r ddaear—afluniaidd a gwag ydoedd;tua'r nefoedd—ond nid oedd yno oleuni.

24. Edrychais tua'r mynyddoedd,ac wele hwy'n crynu,a'r holl fryniau yn gwegian.

25. Edrychais, ac wele, nid oedd neb oll;ac yr oedd holl adar y nefoedd wedi cilio.

Jeremeia 4