Jeremeia 4:13-18 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

13. Wele, bydd yn esgyn fel cymylau, a'i gerbydau fel corwynt,ei feirch yn gyflymach nag eryrod.Gwae ni! Anrheithiwyd ni.

14. Golch dy galon oddi wrth ddrygioni, Jerwsalem, iti gael dy achub.Pa hyd y lletya d'amcanion drygionus o'th fewn?

15. Clyw! Cennad o wlad Dan, ac un yn cyhoeddi gofid o Fynydd Effraim,

16. “Rhybuddiwch y cenhedloedd: ‘Dyma ef!’Cyhoeddwch i Jerwsalem: ‘Daw gwŷr i'ch gwarchae o wlad bell,a chodi eu llais yn erbyn dinasoedd Jwda.

17. Fel gwylwyr maes fe'i hamgylchynant,am iddi wrthryfela yn fy erbyn i,’ ” medd yr ARGLWYDD.

18. “Dy ffordd a'th weithredoedd sydd wedi dod â hyn arnat.Dyma dy gosb, ac un chwerw yw; fe'th drawodd hyd at dy galon.”

Jeremeia 4