Jeremeia 37:8-17 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

8. Yna bydd y Caldeaid yn dychwelyd ac yn rhyfela yn erbyn y ddinas hon, yn ei hennill ac yn ei llosgi â thân.

9. Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD: Peidiwch â'ch twyllo'ch hunain, gan ddweud, “Y mae'r Caldeaid yn siŵr o gilio oddi wrthym”, oherwydd ni chiliant.

10. Oherwydd pe baech yn trechu holl lu'r Caldeaid sydd yn rhyfela yn eich erbyn, heb adael neb ond y rhai archolledig, eto byddent yn codi bob un o'i babell ac yn llosgi'r ddinas hon â thân.’ ”

11. Pan giliodd llu'r Caldeaid oddi wrth Jerwsalem o achos llu Pharo,

12. yr oedd Jeremeia'n gadael Jerwsalem i fynd i dir Benjamin i gymryd meddiant o'i dreftadaeth yno ymysg y bobl;

13. a phan gyrhaeddodd borth Benjamin, yr oedd swyddog y gwarchodlu yno, dyn o'r enw Ireia fab Selemeia, fab Hananeia; daliodd ef y proffwyd Jeremeia a dweud, “Troi at y Caldeaid yr wyt ti.”

14. Atebodd Jeremeia ef, “Celwydd yw hynny; nid wyf yn troi at y Caldeaid.” Ond ni wrandawai Ireia arno, ond fe'i daliodd a mynd ag ef at y swyddogion.

15. Ffyrnigodd y swyddogion at Jeremeia, a'i guro a'i garcharu yn nhŷ Jonathan yr ysgrifennydd, y tŷ a wnaethpwyd yn garchardy.

16. Felly yr aeth Jeremeia i'r ddaeargell ac aros yno dros amryw o ddyddiau.

17. Yna anfonodd y Brenin Sedeceia, a'i dderbyn i'w ŵydd a'i holi'n gyfrinachol yn ei dŷ, a dweud, “A oes gair oddi wrth yr ARGLWYDD?” Atebodd Jeremeia, “Oes; fe'th roddir yn llaw brenin Babilon.”

Jeremeia 37