Jeremeia 37:5-8 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

5. Ac yr oedd llu Pharo wedi dod i fyny o'r Aifft, a phan glywodd y Caldeaid oedd yn gwarchae ar Jerwsalem am hyn, ciliasant oddi wrth Jerwsalem.

6. Yna daeth gair yr ARGLWYDD at y proffwyd Jeremeia a dweud,

7. “Dyma'r hyn a ddywed yr ARGLWYDD, Duw Israel: ‘Dywedwch fel hyn wrth frenin Jwda, sydd wedi eich anfon i ymofyn â mi: Bydd llu Pharo, a ddaeth atoch yn gymorth, yn dychwelyd i'w wlad ei hun, i'r Aifft.

8. Yna bydd y Caldeaid yn dychwelyd ac yn rhyfela yn erbyn y ddinas hon, yn ei hennill ac yn ei llosgi â thân.

Jeremeia 37